Tywydd
Mae Rhodes yn heulog am 300 diwrnod o’r flwyddyn. Mae’r gaeafau’n fwyn, ac yn debyg i’r gwanwyn ym Mhrydain. Cynigia Cerdded yn Rhodes deithiau tywysedig o fis Medi hyd fis Mai. Mae misoedd yr haf yn rhy boeth ar gyfer cerdded. Daw’r ynys yn brysurach yn ystod y misoedd yma ac yn llai dymunol i’r cerddwr ymroddedig.
I weld sut mae’r tywydd yn Rhodes heddiw cliciwch ar y cyswllt hwn http://www.bbc.co.uk/weather/5day.shtml?world=0071










