Mynydd Attavirous
Taith o ryw saith awr yw hon ar gyfer cerddwyr profiadol. Byddwn ni’n dilyn hen lwybr asyn at y copa.
Adeiladodd y Mycenaid allor i Zeus ar y copa.
Mae chwedl yn dweud yr arferai Althimenes, y Minoad a sefydlodd Kamiros, ddringo’r mynydd hwn i weld ei annwyl Ynys Creta. Mae’r ynys i’w gweld yn eglur ar ddiwrnod clir.
Dechreua’r daith ym mhentref mynyddig Embonas. Mae’r tirwedd yn arw ac anwastad, ac nid oes yna gysgod ar y ffordd i fyny’r mynydd. Wrth ddod i lawr fe awn ni drwy goedwig bîn, sy’n dod â ni’n ôl at y pentref.










