Gwyliau Cerdded Rhodes, Groeg.
Mae cwmni Walking Rhodes Ltd yn gweithio ar y cyd ag The Holiday Company Ltd T/A Flightbound; Trefnydd Teithiau trwyddedig sydd bellach yn gallu cynnig pecyn gwyliau sy’n cynnwys y daith awyren, o nifer o feysydd awyr Prydain.
Mae’r cynigion yn cynnwys rhaglen gerdded pum diwrnod o hyd yn cynnwys trafnidiaeth at y daith ac o’r daith gerdded; gyda arweinwyr cerdded profiadol; gweler ein galeri a’n hadran teithiau cerdded am fanylion.
- Llety gyda holl brydau’r dydd, dull coginio Groegaidd lleol o safon.
- Cinio wedi ei baratoi ar eich cyfer ar gyfer y teithiau cerdded.
- Trafnidiaeth o faes awyr Rhodes i’r gwesty a thrafnidiaeth yn ôl i’r maes awyr.
- Trafnidiaeth i’r teithiau cerdded ac yn ôl i’r gwesty.
- Arweinwyr cerdded profiadol a chyfeillgar (mae gennym ferched a dynion yn arwain)
- Trafnidiaeth i, ac un pryd gyda’r nos ym mhentref Haraki.
- Amrywiaeth o adloniant ar gyfer rhai o’r nosweithiau.
-
Cyfanswm y pecyn gwyliau wedi ei seilio ar hedfan o faes awyr Gatwick – dim ond £799.00 yr un
- Efallai bydd ychwanegiad i’r pris os ydych chi’n hedfan o faes awyr arall
- DIM COSTAU CUDD – chi sy’n prynu eich Ouzo!
- I weld os oes lle ac i archebu cysylltwch â Flightbound
Llety gyda golygfeydd godidog yn Lindos Horizon Hotel.
Cliciwch ar y ddelwedd am ragor o luniau.
Mae’r gwesty modern a glân yma mewn lleoliad tawel ond eto dim ond 10 munud ar droed o ganol Lindos.
Mae digonedd o le yn yr ystafelloedd sy’n hwylus a gyda digon o ddodrefn i gadw eich offer a’ch dillad. Mae Nikos Kritikos, perchennog y gwesty teuluol yma’n deall safbwynt ag anghenion cerddwyr ar wyliau gan iddo dreulio amser sylweddol gyda thîm Walking Rhodes yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn cwrdd â’ch anghenion chi.
Gall dewis gwyliau cerdded fod yn brofiad dryslyd. Gall yr hyn sy’n cael ei gynnwys yn y pris, a’r hyn sy’n ychwanegol fod yn amwys. Mae cynnig Walking Rhodes yn syml – DIM COSTAU CUDD.
Os nad yw ein harweinwyr cerdded yng ngwlad Groeg maent wedi eu lleoli ym Metws-y-Coed yng nghalon ardal cerdded Gogledd Cymru.
Bydd ein harweinwyr cerdded hyfforddedig a chyfeillgar yn fwy na pharod i drafod unrhyw gwestiynnau sydd gennych, unai dros y ffôn neu efallai bod modd i ni gwrdd â chi am sgwrs anffurfiol.
Gallwn ddarparu ar gyfer gwyliau am bythefnos hefyd.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni
Walking Rhodes, Walking Holidays in the Sun
Mae’r holl wyliau wedi eu diogelu o dan ATOL 2876.
Mae Mr a Mrs Kritikos, ein Gweithredwyr a’n Partneriaid Groegaidd, yn gwneud y paratoadau olaf gyda Alwyn a Susan er mwyn sicrhau y bydd eich gwyliau cerdded yn wyliau i’w gofio.
Mae Croeso Groegaidd cyfeillgar yn aros amdanoch.
Diwrnod hir yn y swyddfa? Amser Ouzo!!
Yasas ac Iechyd da gan y tîm.
Cynnig Arbennig i Ddysgwyr Cymraeg
Beth am drefnu i griw ohonoch, ynghyd â’ch tiwtor dysgu Cymraeg, i fynd am wyliau cerdded yn Rhodes ac ymarfer a gloywi eich Cymraeg ar yr un pryd? Gallwn drefnu pecyn yn arbennig ar eich cyfer ac yn sicr ni chewch gyfuniad mwy unigryw na cherdded yn ynys Rhodes a siarad Cymraeg ar yr un pryd!











