Hawdd:
Llwybrau Côl Tar, ffyrdd
|
 |
Cymedrol:
Llwybrau wedi’u paratoi, llwybrau pridd, llwybrau coedwig |
 |
Anodd:
Tir garw anwastad gydag ychydig o gerdded mynydd, cerdded drwy lefydd diarffordd ar adegau |
 |
Anodd Iawn:
Tir garw, profiad cerdded yn angenrheidiol |
 |
Anodd Eithriadol:
Mae’r raddfa hon yn golygu sgrialu dros greigiau ac efallai y bydd ychydig o ddringo creigiau yn angenrheidiol. Ni chaiff mwy na dau berson i bob un arweinydd eu cymryd ar y teithiau hyn. (Nid yw’r math hwn o daith yn cael ei ddisgrifio ar y wefan hon; maent ar gael yn unig ar ôl i bobl gael eu hasesu gan ein harweinwyr cerdded.) |
 |
|
Offer:
Bydd angen y canlynol arnoch:
Bag cefn sy’n dal isafswm o 20 litr
Esgidiau Cerdded (rhaid eu gwisgo a’u profi cyn eu defnyddio’n iawn)
Sanau trwchus - sawl pâr
Trowsus hir ar gyfer cerdded – rhaid iddynt fod yn rhai ar gyfer yr haf
Coesarnau (gaiters) ar gyfer cerdded oddi ar y llwybr, er mwyn amddiffyn rhan isaf y goes rhag perthi bychain, pigog.
Siwmperi cerdded, gwisgwch nhw mewn haenau, bydd yn glaear yn y bore a chyda’r hwyr.
Trowsus a siaced wrth-ddŵr gyda dim leinin ynddynt.
Het haul: cofiwch am gefn eich gwddw.
Eli haul: defnyddiwch ffactor uchel bob tro. Fydd dim modd i chi osgoi’r gwynt poeth.
Cludwr dŵr: y math delfrydol yw’r chwysigen sy’n eich galluogi i yfed wrth gerdded.
Cemegion ymlid pryfed.
Bydd gennym ni offer cymorth cyntaf bob amser ond os ddewch chi â rhai eich hunain mae hynny’n iawn.
Sbectol haul, mae’r cerrig yn tanbeidio yn yr haul felly mae sbectol haul yn hanfodol. Prynwch y math sy’n amddiffyn eich llygaid rhag pelydrau uwchfioled bob tro. |
|