Embonas, ardal winoedd Rhodes
Yn Emponas mae gwindy Emery sy’n cynhyrchu llawer o win gorau Rhodes. Caiff ymwelwyr eu hannog i flasu’r gwinoedd.
Mae tirwedd yr ardal hon yn ddeniadol iawn gyda gwinllannau’n dringo llethrau serth y bryniau am y mynydd uwchlaw.
Yn y pentref ei hun mae yna ddewis helaeth o dafarndai a siopau ar gyfer ymwelwyr. Gall y pentref hwn gynnal noswaith Roegaidd draddodiadol sy’n crisialu hanfod bywyd pentrefol Groeg.










