Home
Walking Holidays Rhodes Greece, Guided Walks, hiking holidays, tours, trek,
Walking Holidays Rhodes Greece, Guided Walks, hiking holidays, tours, trek,
Walking Holidays Rhodes Greece, Guided Walks, hiking holidays, tours, trek,
Walking Holidays Rhodes Greece, Guided Walks, hiking holidays, tours, trek,
Walking Holidays Rhodes Greece, Guided Walks, hiking holidays, tours, trek,
Walking Holidays Rhodes Greece, Guided Walks, hiking holidays, tours, trek,
Walking Holidays Rhodes Greece, Guided Walks, hiking holidays, tours, trek,

Primary links

  • cartref
  • about us
  • amdanom ni
  • graddfeydd cerdded
  • daily guided walks
  • oriel
  • teithiau
  • pam Groeg?
  • pecynnau gwyliau
  • ffurflen ymholi
  • contact us
  • walking programs
  • shop
  • blog

Croeso i wefan
                          Walking Rhodes

Mae ynys Rhodes yn ynys hudol, a dyma gyfle unigryw i fynd yno ar wyliau cerdded. Ymunwch â’n tîm o arweinwyr cerdded hyfforddedig, gwybodus a phrofiadol. Mi ân nhw â chi ar hyd llwybrau nad oes ond ambell un o’r bobl leol yn gwybod amdanynt.

Dyma gyfle i fynd ar wahanol fathau o deithiau cerdded a phrofi diwylliant Groegaidd a hanes cyfoethog yr ynys brydferth hon, sy’n gorwedd mewn heulwen am y rhan helaethaf o’r flwyddyn.

 

Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion a Digwyddiadau

TYWYDD

Mae Rhodes yn heulog am 300 diwrnod o’r flwyddyn. Mae’r gaeafau’n fwyn iawn, ac yn debyg i’r gwanwyn ym Mhrydain!

darllenwch fwy...

TEITHIAU CERDDED

Mae yna ddeg taith gerdded wedi’u disgrifio ar y wefan hon. Fe gewch chi’r cyfle i fynd ar rai ohonyn nhw yn ystod eich gwyliau cerdded yn Rhodes.

darllenwch fwy...

MEDRAU CERDDED

Bydd eich medrau cerdded yn cael eu gwerthuso’n ddyddiol gan ein harweinwyr cerdded. Fe gewch eich hannog i wthio’ch ffiniau!

darllenwch fwy...

Cerdded yn Rhodes, Groeg

Pam dewis mynd i  Rhodes, Groeg am wyliau cerdded ?      

 

Mae’r tywydd a gawsom yr haf hwn yng Ngogledd Ewrop yn rheswm digon teilwng i hedfan i Rhodes a chael tywydd delfrydol ar gyfer cerdded.

O blith ynysoedd Groeg, Rhodes yw’r bedwaredd o ran maint, a hi ydi’r fwyaf o Ynysoedd y Dodecanese. Mae hanes digyffelyb yn perthyn i’r ynys. Fe wyddai’r rhai oedd â’u llygaid ar Rhodes fod yr ynys mewn safle strategol, yn agos at Yr Aifft ac at Anatolia (ardal hanesyddol sy’n cyfateb yn fras i diriogaeth Twrci heddiw).  Cafodd Rhodes ei meddiannu gan y Minoaid o ynys Creta. Fe gredir mai’r Minoaid a sefydlodd y cysegrfeydd cyntaf yn Lalyssos, Kamiros a Lindos. Mae’r Persiaid, Rhufeiniaid, Arabiaid, Marchogion Sant Ioan, Twrciaid Otoman a’r Eidalwyr bob un wedi gadael eu hôl ar Rhodes mewn un ffordd neu’r llall.

Gan fod digonedd wedi’i sgrifennu am hanes Groeg a Rhodes fe ganolbwyntiwn ni ar roi gwybod ichi am beth ferwch chi ei weld wrth gerdded yn Rhodes. Ein bwriad ydi rhoi’r cyfle ichi fwynhau’r teithiau cerdded amrywiol, ond rhoi’r cyfle hefyd ichi brofi’r ffordd Roegaidd o fyw os ydach chi’n dymuno gwneud hynny. Yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn fe allwn ni drefnu ichi dreulio ychydig o amser efo’r brodorion yn hel eich olewydd eich hun, a gweld sut y cân nhw eu paratoi ar gyfer eu bwyta neu ar gyfer gwneud olew olewydd. Dyna ichi beth yw profiad dymunol. Beth a allai fod yn well na hel eich orennau eich hun o’r coed o amgylch pentrefi Malona a Massari? Rhain yw orenau gorau’r byd. Gallwn ddadlau  ein hachos efo’r Bonwr Delmonte ei hun!

Wrth ichi gerdded o’r pentrefi i gefn gwlad fe gewch chi’ch hun yng nghanol gerddi wedi’u ffensio a ffermydd bychain  gyda choed ffrwythau, gwinwydd a llysiau. Teuluoedd unigol sy’n berchen ar y rhain, a nhw sy’n gofalu amdanynt. Caiff y cynnyrch sy’n weddill ei werthu. Bob Dydd Sadwrn yn Nhref Rhodes mae yna farchnad lle caiff yr holl gynnyrch yma ei werthu gan y ffermwyr lleol. Mae’n werth ymweld â’r lle i weld yr amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau sydd ar werth.

Yn ardaloedd ffrwythlon Rhodes mae yna ffermydd a thai gwydr enfawr a chaeau agored gyda phethau fel tomatos, melonau a ffa cochion yn tyfu ynddynt. Mae’r hinsawdd yn Rhodes yn rhoi’r posibilrwydd o gael dau gnwd bob blwyddyn. Mae rhai o’n teithiau cerdded yn mynd drwy’r ffermydd hyn ac mi allwch chi glywed oglau’r cynnyrch ffres.

Ar ôl gadael y ffermydd a’r gerddi rydym ni’n mentro i gefn gwlad amrywiol Rhodes. Fe allwch chi fod yn cerdded mewn coedwigoedd pîn, llwyni olewydd, gweunydd, neu diroedd creigiog wedi’u gorchuddio gan berlysiau gwyllt.  Ar yr olwg gyntaf mae rhai o’r mynyddoedd yn ymddangos fel creigiau cedyrn, anial, ond mae hyd yn oed y rhain yn gartref i blanhigion, anifeiliaid bychain, ac wrth gwrs, geifr. Mae digonedd o eifr yn Rhodes, rhai’n ddof a rhai’n wyllt.

Mae yna geirw gwyllt yn Rhodes, ond mae’n anodd dod ar eu traws.

Mae madfallod yn weddol gyffredin, ac mae rhai o bob lliw a llun i’w gweld. Mae yna nadroedd o bob math ar yr ynys hefyd. Nid yn aml y caiff nadroedd eu gweld ar ein teithiau, ond efallai y byddwch chi’n ffodus, mae rhai ohonyn nhw’n lliwgar iawn. Mae rhai o’r nadroedd yn wenwynig, ond nid ydyn nhw’n angheuol i bobl. {I dawelu’ch meddwl, mae pob un o’n harweinwyr cerdded wedi eu hyfforddi i ddelio ag achlysur, petai un yn digwydd.} Mae yna ddigonedd o bryfed cop a phryfetach ar yr Ynys, ac mae rhywogaethau gwahanol i’w gweld ar adegau gwahanol o’r flwyddyn.

Mae amrywiaeth o adar yn byw ar yr Ynys. Mae’n bosib gweld yr adar  mawr yn y mynyddoedd.

Bydd ein harweinwyr cerdded yn falch o gael trafod y planhigion a’r anifeiliaid efo chi. 


Edrychwch ar y lluniau yn ein horiel. 

  • English
  • Deutsch
Copyright © Walking Rhodes 2009 - Guided Walks & Walking Holidays Rhodes Greece- Site by Website Express
Terms & Conditions