Amdanom Ni
Ynys i’r cerddwyr yw Rhodes. Hon yw’r fwyaf o Ynysoedd y Dodecanse gydag arwynebedd o tua 1398 cilomedr. Mae’n bosib mynd ar bob math o deithiau cerdded gwahanol; dros fynyddoedd, drwy goedwigoedd, i ardaloedd hanesyddol a llefydd o harddwch naturiol, i’r ardal winoedd, ar deithiau arfordirol, a llawer mwy. Does gennych chi byth bellter mawr i drafeilio at fan cychwyn eich taith gerdded, sy’n golygu nad oes angen mynd ar deithiau hir mewn bws.
Mae Cerdded yn Rhodes yn gwmni cerdded sy’n cael ei redeg gan gerddwyr ar gyfer cerddwyr. Os ydych chi wedi cadw lle ar un o’n teithiau fe ddown ni i’ch nol chi rhwng 7 ac 8 y bore. Ar ôl diwrnod llawn o gerdded dymunol mewn golygfeydd anhygoel fe awn ni â chi’n ôl rhwng 5 a 6 o’r gloch yr hwyr.
Rydym ni’n trefnu amrywiaeth o deithiau cerdded ac yn eu hadolygu a’u diweddaru’n gyson.
Mae Alwyn, Susan a Stephen, y tri a sefydlodd Cerdded yn Rhodes, yn gerddwyr profiadol, ac wedi ennill profiad helaeth yn cerdded eu mynyddoedd brodorol - Eryri. Mae’r tri yn parhau i ddatblygu eu medrau ac yn mynychu cyrsiau hyfforddi rheolaidd a ddarperir gan Y Ganolfan Fynydda Genedlaethol ym Mhlas y Brenin, Capel Curig, Gogledd Cymru. Maent hefyd yn aelodau o Gyngor Mynydda Prydain.
Mae Susan Williams yn gerddwr brwd ac yn arweinydd profiadol. Hi yw ysgrifenyddes y cwmni. Bu’n gweithio yn y diwydiant gweithgareddau awyr agored ers sawl blwyddyn ac mae nifer o wneuthurwyr yn y diwydiant mynydda wedi ei gwahodd i roi cynhyrchion newydd ar brawf yn y mynyddoedd.
Alwyn Griffith ydi un o gyd-gyfarwyddwyr Cerdded yn Rhodes. Enillodd gymhwyster fel nyrs gofrestredig yn 1979 ac ers hynny bu’n dilyn gyrfa fel Rheolwr Gwerthu a Marchnata gan weithio i gwmnîau fel 3M a Kodak. Mae hyn wedi rhoi profiad a gwybodaeth eang iddo, yn enwedig wrth sefydlu cwmnîau newydd. Hyn hefyd a roddodd iddo’r athroniaeth graidd o “gynnig atebion i anghenion cwsmeriaid yn hytrach na gwerthu portffolio o gynhyrchion.” Caiff yr athroniaeth hon ei hadlewyrchu yn y ffordd mae Cerdded yn Rhodes yn gweithredu.
Cafodd Alwyn ei fagu yn Eryri. Mae’n gerddwr brwd ac mae ganddo gymhwyster fel capten cwch. Mae’n deall fod diogelwch yn angenrheidiol er mwyn mwynhau gweithgareddau awyr agored i’w heithaf. Dros y blynyddoedd mae Alwyn wedi dod i wybod llawer am wlad Groeg. Mae’n gallu siarad yr iaith ynghyd â Chymraeg, a thipyn o Almaeneg hefyd.
Mae Cerdded yn Rhodes yn Gwmni Cymraeg a Chymreig gyda swyddfa ym Metws -y -Coed a Chaerdydd.
Bydd Susan, Stephen neu Alwyn yn fwy na pharod i sgwrsio gyda chi os oes angen rhagor o fanylion arnoch.










